Grŵp Trawsbleidiol ar Fwyd a Diod Cymru

Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Mawrth 24 Mawrth rhwng 6.00pm a 7.30pm

 

Cyflwyniad

 

Cyflwyniadau gan         

 

Nick Ramsay AC

Jeff Cuthbert AC

Matthew Phipps.

 

Etholwyd Nick Ramsay a Jeff Cuthbert yn gyd-gadeiryddion y grŵp. 

 

Etholwyd Matthew Phipps yn Ysgrifennydd. 

 

Wedyn cafwyd cyflwyniad gan bawb a oedd yn bresennol sef: -

 

Cynulliad Cymru:

 

Rhun ap Iorwerth

Simon Thomas

Rebecca Evans

Keith Davies

Sian Jones

Llyr Gruffydd

Nick Ramsay

Jeff Cuthbert

 

David Shaw - Big Hand Brewing

Dominic Rowley - Felinfoel Brewery

Malcolm Harrison – Pub is the Hub

Paul Heggarty - All Party Parliamentary Beer Group

Emily Ryans - CAMRA

Kris Dungey - SA Brain

John Pocket - First Great Western

Simon Thomas - Bwyd Stryd Caerdydd

Katie Palmer - Bwyd Caerdydd

Matthew Phipps - Cyfreithwyr TLT

 

Ymddiheuriadau

 

Bragdy Monty

Evan Evans

Inn Bev

Molson Coors

 

Nodwyd nifer o faterion yn ystod y cyflwyniadau, gan gynnwys rôl, swyddogaethau ac amcanion y Grŵp. Cytunwyd yn gyffredinol y dylai’r Grŵp edrych ar y canlynol a’u datblygu, gyda’r amcan cyffredinol, sef hyrwyddo bwyd a diod o Gymru. 

 

Roedd y pwyntiau o ddiddordeb arbennig i’r aelodau yn cynnwys: -

 

·          Adwerthu alcohol yn gyfrifol 

·          Datblygu bragdai bach a bach iawn.

·          Cydnabod bod y dafarn yn ganolog, nid yn unig mewn cymunedau lleol (gwledig), ond bod adwerthu alcohol mewn modd cyfrifol yn ganolog hefyd.

·          Rôl amaethyddiaeth yng Nghymru

·          Cydnabyddiaeth, ar wahân i gwrw, hefyd y gallai, ac y dylai gwin (gyda datblygiad gwinllannoedd) a seidr gael eu cynnwys fel rhan o’r Grŵp yn y dyfodol. 

·          Mae pryderon hefyd yn bod ynghylch bwyd cynaliadwy, a phryderon amgylcheddol o ran cynhyrchu a chyflenwi bwyd.   

·          Cydnabyddir bod marchnadoedd bwyd a gwyliau bwyd yn chwarae rhan bwysig yn y "stori fwyd" yng Nghymru

·          Bydd iechyd yn un o nodweddion y Grŵp a’i nodau, a chydnabod pwysigrwydd alergeddau ac ymwybyddiaeth ohonynt (gweler y sylwadau am glwten a Bragdy Montys isod).

 

Amcanion

 

Mae hyrwyddo bwyd a diod o Gymru yn genedlaethol, ac yn rhyngwladol yn y pen draw, yn amcan allweddol ar gyfer y grŵp. 

 

Manteision i’r aelodau

 

Cyfle i Aelodau’r Cynulliad gael deialog uniongyrchol gyda chynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd a diod, fel y gallant ddeall y materion masnachol a rheoleiddiol a wynebir ganddynt. 

 

Yn yr un modd, mae’n gyfle i gynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd a diod gael gwrandawiad gan Aelodau’r Cynulliad,

 

 

Amserlen a chyfranogiad parhaus

 

Yn gyffredinol, rydym o’r farn y byddai cyfarfodydd chwarterol (bedair gwaith y flwyddyn) yn briodol.

 

Rhagwelwyd y byddai cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn dymhorol (gwanwyn, haf, hydref, y gaeaf).  Un o’r pedwar cyfarfod hyn i fod yn fath o ddigwyddiad cymdeithasol, a mynegwyd mai cyfarfod mis Ionawr fyddai’r dewis gorau ar gyfer hynny.

 

Rhagwelir y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ym mis Gorffennaf  (yn debygol o fod ar 7 Gorffennaf fe ymddengys). Yna dylid cynnal cyfarfod arall ym mis Hydref, ond mae angen rhoi ystyriaeth i ddyddiadau ac amserlenni (a sicrhau bod Aelodau’r Cynulliad ar gael).  Wrth gydnabod nifer yr ymddiheuriadau am absenoldeb (gweler uchod), nodwyd y dylid rhoi cymaint o rybudd â phosibl i aelodau’r Grŵp.

 

Nid oes rheidrwydd i gynnal y cyfarfodydd ym Mae Caerdydd yn unig, a chadarnhaodd Chris Dungey (SA Brain) y byddai’n hapus i gynnal y Grŵp yn y bragdy (efallai gyda thaith fer o amgylch y bragdy). 

 

Eglurodd Matthew Phipps, yn ei drafodaethau gyda Bragdy Monty (y mae ei gwrw heb glwten, yn benodol, wedi’i gydnabod gan aelodau’r Grŵp), ei fod wedi mynegi diddordeb yn y Grŵp, a nodwyd bod gobaith y gellid cynnal rhai cyfarfodydd ymhellach i’r gogledd na Chaerdydd. 

 

Trafododd y Grŵp gyfleoedd ar gyfer datblygu aelodaeth y grŵp, gyda phob aelod yn cael cais i ddarparu manylion cyswllt o leiaf un enwebai ychwanegol i Matthew Phipps, a fydd wedyn yn cysylltu i geisio cynnwys y darpar-aelodau yn y Grŵp y tro nesaf. 

 

Aelodau’r Cynulliad i roi eu hawgrymiadau i Sandra Morgan, Cynorthwy-ydd Nick Ramsay.

 

Awgrymodd Rhun Ap Iorwerth y byddai modd cysylltu â Bwyd Môn (manylion i ddilyn) a allai fod eisiau cymryd rhan yn y Grŵp.

 

Cyflwyniadau:

 

I ddilyn, cafwyd cyflwyniad gan Paul Hegarty, Ysgrifennydd Anrhydeddus y Grŵp Cwrw Seneddol Hollbleidiol (All Party Parliamentary Beer Group). Cafwyd esboniad llawn a chynhwysfawr o’r gwaith a wnânt, yn San Steffan ac ym Mrwsel.

 

Mae cydnabyddiaeth y gall Senedd San Steffan elwa o’r cyfle i gael rhagor o grwpiau mwy, a grwpiau mwy cyfeiriedig sy’n gysylltiedig â bwyd a diod. Mae cydnabyddiaeth mai cyfle sydd yma yng Nghymru i gael grŵp mwy amrywiol, a fydd yn trafod pynciau mwy cyffredinol, ond sydd felly yn fwy cynhwysol, ac a fydd yn drawstoriad o’r diwydiant ac o Aelodau’r Cynulliad. Mynegodd Paul ei gred y gall rhywfaint o lwyddiant y Grŵp gael ei briodoli i’r ffaith y byddwn yn osgoi materion gwleidyddol rhwygol (dangoswyd tei cwrw fel enghraifft) a all, o bryd i’w gilydd, blagio’r diwydiant a’r rhai sy’n gweithio ynddo (mewn amrywiol ffyrdd).  Mae gwaith y Grŵp yn fras yn cynnwys ciniawau, sesiynau blasu, paru cwrw a chaws, ymweliadau â bragdai, ciniawau y Cadeirydd, sesiynau briffio ar bolisïau.  Eglurodd Paul fod y Grŵp bob amser yn cael ei gynrychioli ym mhob un o Gynadleddau’r Pleidiau, ac efallai y bydd cyfle i roi gwahoddiad i’r grŵp fod yn bresennol yn y man.

 

Yr ail gyflwyniad gan Simon Thomas, o Street Food Caerdydd.  Rhoddodd Simon eglurhad ar ddatblygiad bwyd stryd yng Nghaerdydd dros y nifer o flynyddoedd diwethaf, sydd wedi arwain, yn rhannol, at greu ‘preswyliad’ o ddau fis ar gyfer nifer o gynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd a diod yn "The Depot" Ffordd Dumbals Caerdydd drwy gydol mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2014. 

Cafwyd esboniad ar ddatblygu enw da Caerdydd am fwyd stryd, a’r manteision economaidd sy’n dod yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol i’r ddinas a’r rhanbarth yn ei sgîl. Soniwyd am ddatblygu cysylltiadau gyda chynhyrchwyr newydd, y gefnogaeth a’r cymorth a ddarparwyd iddynt, am farchnata a lleoli cynnyrch, a hefyd cafwyd eglurhad ar y camau tebygol nesaf, a’r cyswllt arfaethedig â Syrcas No Fit State yn ddiweddarach eleni.

 

 

Rhwydweithio a thrafodaeth anffurfiol

 

Daeth rhan ffurfiol y cyfarfod i ben am oddeutu 7.15pm. Cafwyd diodydd a lluniaeth wedyn, a ddarparwyd gan Nick Otley (Bragdy Otley). Daeth y rhan hon o’r noson i ben am oddeutu 8.00pm.

 

Camau gweithredu sy’n codi

 

·          Matthew Phipps i lunio a dosbarthu’r cofnodion. 

·          Neilltuo ystafell a chyfleusterau ar gyfer y cyfarfod arfaethedig nesaf (yn ystod pythefnos gyntaf mis Gorffennaf)

·          Cynigion ychwanegol ar gyfer aelodau ac aelodaeth, i gael eu hanfon at Matthew Phipps

·          Matthew Phipps a Simon Thomas i drafod y digwyddiad cymdeithasol (gyda’r cynigion i gael eu trafod yn y cyfarfod ym mis Gorffennaf)

·          Dau gyflwyniad pellach gan yr aelodau i’w cytuno (nodwyd nifer o gynigion eisoes). NM a JC i gadarnhau gyda MP.

 

Unrhyw Fater Arall

 

Nid oedd mater arall i’w drafod, ond nodwyd bod croeso i’r aelodau gynnig awgrymiadau ar gyfer yr Agenda. Cyfeiriwch nhw at Matthew Phipps yn uniongyrchol.